Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Hydref 2019
Amser:
09.16 -
10.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5677
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Neil McEvoy AC Jack Sargeant AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o dystiolaeth gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a Chymdeithas Filfeddygol Prydain ynghylch y mater dan sylw yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ddweud bod yr aelodau’n gofidio am ei phrofiadau gyda’r gwasanaethau cyhoeddus, a:
· gofyn a yw wedi gofyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i'w phryderon ynghylch diffygion yn y gweithdrefnau cwyno;
· dweud wrthi nad oes rhyw lawer y gall ei wneud i fwrw ymlaen â deisebau sy'n ymwneud ag achosion ac amgylchiadau unigol a bod y Pwyllgor, felly, wedi cytuno i gau'r ddeiseb; ac
· awgrymu y dylai’r deisebydd, os yw am weld newidiadau penodol i drefn gwyno’r sector cyhoeddus, ystyried trafod y rhain â’i chynrychiolwyr lleol neu gyflwyno deiseb arall.
Trafodoodd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb yn awr gan mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynigion yn ymwneud â ffyrdd osogi ai peidio,
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried y wybodaeth a oedd wedi dod i law a phryderon am ddiogelwch yn ymwneud â defnyddio’r gilfan i barcio ynddi.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd nad oes fawr ddim y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni mwyach yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd, a hynny o ystyried y wybodaeth a gafwyd gan y Gweinidog a bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau rheoleiddio gwasanaethau bysiau drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus arfaethedig. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i awgrymu bod y deisebwyr yn ymgysylltu â’r broses o graffu ar y Bil ac yn lobïo Aelodau'r Cynulliad i osod unrhyw welliannau perthnasol bryd hynny.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
· aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am yr amserlenni ar gyfer datblygu Cod Ymarfer ar gyfer Primatiaid cyn ystyried cymryd unrhyw gamau eraill; a
· gofyn am bapur briffio cyfreithiol ynghylch y pŵer deddfwriaethol sydd gan Gymru yn y maes hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol ac, o ystyried cryfder y dystiolaeth a oedd wedi dod i law mewn perthynas â gwella’r modd roedd ysgolion yn ymateb i achosion o fwlio, cytunodd i ofyn i’r Gweinidog Addysg ymddangos gerbron sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr union waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma yn y cyswllt hwn. Cytunodd hefyd i godi’r mater hwn yn ystod unrhyw sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal gyda’r Gweinidog Addysg yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion am yr union waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma yn y cyswllt hwn. Cytunodd hefyd i godi’r mater hwn yn ystod unrhyw sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal gyda’r Gweinidog Addysg yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
· ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn sut mae cytundebau fframwaith bwyd a diod presennol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn galluogi ac yn annog y sector cyhoeddus i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni dyddiol, sy’n addas i figaniaid, ac
· ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i adolygu canllawiau statudol ar gyfer bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir, o ran y gofynion i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni sy’n addas i'r rhai sy'n dilyn diet figan.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i aros i’r deisebydd roi sylwadau ar ymateb Gweinidog y Gymraeg cyn ystyried a yw am fwrw ymlaen â’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn am fwy o fanylion am y modd y mae'r cyllid o £1 miliwn a ddyrannwyd hyd at 2020 yn cael ei wario a sut y mae'n helpi i leihau tlodi mislif; ac
· ysgrifennu at Lywodraeth yr Alban i ofyn am wybodaeth am y modd y mae’n gweithredu ei hymrwymiadau i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim mewn lleoliadau addysg, ac i ddarparu cymorth penodol i ferched o gartrefi incwm isel, ynghyd ag unrhyw wybodaeth y gallant ei darparu am effaith y mesurau hyn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn sut mae'r llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r canllawiau statudol ar ddarparu cyfleusterau newid babanod os nad yw'n bwriadu craffu ar strategaethau toiledau lleol.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a’r ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a all sicrhau na fydd darpariaethau Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 yn cael eu gwanhau yn dilyn yr adolygiad arfaethedig yn 2019/20, ac a all sicrhau mai un o ddibenion yr adolygiad fydd nodi meysydd lle gellir cryfhau'r Rheoliadau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i'w chau’n awr o ystyried y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yn Ysbyty Wrecsam Maelor a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd yn darparu adroddiadau’n rheolaidd ar ei berfformiad i'r Cyngor Iechyd Cymunedol.
Trafododd y Pwyllgor ganllawiau ar arfer newydd a gyhoeddwyd gan Cafcass Cymru a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl atynt i ofyn sut y maent yn bwriadu monitro dylanwad ac effaith y canllawiau a gofyn a fyddant yn darparu hyfforddiant i helpu ymarferwyr.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i aros am ganlyniad adolygiad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU o’i argymhelliad yn ymwneud â datblygu rhaglen sgrinio ar gyfer syndrom Marwolaeth Sydyn y Galon (SCD). Disgwylir canlyniad yr adolygiad ym mis Rhagfyr 2019.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau gan y deisebwyr am fonitro dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.